Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru | Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales

CR 14

Ymateb gan: Urdd Gobaith Cymru
Response from:
Urdd Gobaith Cymru

 

Cyflwyniad

1.        Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad Ieuenctid Cenedlaethol Gwirfoddol. Mae 55,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau. Nod Urdd Gobaith Cymru yw i ‘... sicrhau cyfle, trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25 oed) i ddatblygu’n unigolion cyflawn; a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.’

2.      Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ddynion a merched ifanc i ymfalchïo yn eu gwlad, i fod yn agored i’r byd ac i ymgorffori ein hiaith a’n diwylliant, ynghyd â’r gwerthoedd cyffredinol rydym ni’n eu coleddu yng Nghymru. Mae dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn aelodau o’r Urdd ers iddo gychwyn yn ôl yn 1922. Ni ellir gor-bwysleisio arwyddocâd yr Urdd. Mae ei gyfraniad at genedlaethau yng Nghymru, at fywydau, hyder ac iechyd meddwl ein pobl ifanc dros y blynyddoedd wedi bod yn aruthrol.

3.      Mae pob un ysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru yn ymwneud â’r Urdd ac mae 56% o holl ysgolion Cymru yn ymwneud â’r Urdd trwy’r canlynol:

·         Darpariaeth yr Urdd o fewn ysgolion yng Nghymru, clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol

·         Cynllun ‘Cymraeg pob Dydd’ sydd yn rhoi cyfleoedd defnyddio’r Gymraeg o fewn ysgolion di-Gymraeg

·         Cyfnodau preswyl yng ngwersylloedd yr Urdd

·         Chwaraeon

·         Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

·         Y Celfyddydau

·         Perfformio ar lwyfannau lleol, sirol a rhanbarthol

·         Llenyddiaeth

·         Theatr Ieuenctid yr Urdd

·         Ymweliadau Rhyngwladol

·         Cylchgronau ail iaith ac iaith gyntaf

·         Gwaith Dyngarol a Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru gan yr Urdd

·         Gwirfoddoli yn gymunedol ac yn rhyngwladol

·         Achrediadau a hyfforddiant i bobl ifanc

·         Gweithgareddau Awyr Agored.

Gweler www.urdd.cymru

4.      Mae dros 58% o breswylwyr y gwersylloedd yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg ac mae 26% o aelodaeth yr Urdd o’r 20% ardal fwyaf difreintiedig yng Nghrymu. Trosiant yr Urdd yw £10.3 miliwn a daw 21% o’n hincwm o ffynonellau cyhoeddus.  Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad ar werth economaidd yr Urdd yn genedlaethol ar draws Cymru o dros £25.5 miliwn (2016/2017). Mae Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymorth Ieuenctid yr Urdd wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.

5.      Rydym yn aelodau o Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Datblygu’r Cwricwlwm ynghyd â’r is-grŵp plant a phobl ifanc.

6.     Rydym yn ymfalchïo bod y Gymraeg yn ganolog i ddatblygiad y Cwricwlwm ac edrychwn ymlaen at gefnogi ysgolion a Llywodraeth Cymru i wireddu’r weledigaeth – ‘Galluogi pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg er mwyn defnyddio’r iaith yn hyderus ym mhob agwedd ar fywyd.’

Ein hymateb i ddetholiad o’r cwestiynau a osodwyd gan y pwyllgor.

7.      Sut y mae datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?’, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn cael eu datblygu i greu cynnwys y cwricwlwm ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad

7.1.    Rydym yn ymwybodol bod y rhain yn cael eu datblygu gan y proffesiwn, fel mudiad nid ydym wedi derbyn gwahoddiad swyddogol i fod yn rhan o’u datblygiad. Byddwn wedi disgwyl cyswllt i drafod y cyfleoedd ar gyfer profiadau cyfoethogi ym maes Iechyd a Lles, Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. 

8.     Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rôl y Grŵp Cynghori Annibynnol a Bwrdd y Cadeiryddion, a chyfraniad y Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg;

8.1.   Rydym yn aelod o’r Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg ac yn ei fynychu yn rheolaidd. Trwy fynychu cyfarfodydd y grŵp yma, rydym yn derbyn diweddariadau ar ddatblygiad y cwricwlwm ynghyd â mynegi barn ar agweddau o’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.

8.2.  Er hyn ychydig o ddeialog sydd hyd yma i ni gyfrannu’n strategol. Roeddwn yn disgwyl byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn am ein barn ar y ddogfen Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, cyfraniad mudiadau gwaith ieuenctid at y cwricwlwm newydd, rôl cyrff allanol yn natblygiad y Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r profiadau cyfoethogi, trafod y berthynas rhwng y cwricwlwm a chyrff allanol a sut i gychwyn paratoi cyrff allanol i ymgysylltu a’r cwricwlwm.  

9.     Pa mor barod yw ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ac i ba raddau y mae cysyniadau adroddiad yr Athro Donaldson ar ei adolygiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn cael eu rhoi ar brawf a’u rhoi ar waith eisoes.

9.1.   Hoffwn ganolbwyntio ein hymateb yn seiliedig ar y profiadau cyfoethogi a dysgu tu allan i’r dosbarth. Hyd yma nid ydym yn ymwybodol os oes trafodaethau neu ymchwil, ar waith yn y maes hwn.

9.2.  Yn y ddogfen Dyfodol Llwyddiannus gan yr Athro Graham Donaldson, Chwefror 2015, nodwyd ym Mhennod 5, pwynt 6, y canlynol:

‘bringing the word into range’. Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gweld bod eu dysgu’n berthnasol i’r byd tu allan i’r ysgol a bod cyfleoedd i ffurfio cysylltiadau a’r byd hwnnw yn cael eu gwireddu. Mae nifer o ysgolion wedi cydnabod eisoes fod angen ymestyn ymhellach na’u harbenigedd eu hunain ac wedi ffurfio cysylltiadau cryf a chyrff ac unigolion y tu allan.’

‘Mae perfformiad yn ei ystyr ehangaf yn bwysig hefyd i greu dilysrwydd. Gellir meithrin sgiliau arwain drwy chwarae rhan yn yr ystafell ddosbarth a hefyd drwy gymryd rhan yn fwy ffurfiol mewn clybiau a chymdeithasau.’

Mae argymhelliad 34 yn nodi ‘Dylai plant a phobl ifanc gael cyfleoedd i ddysgu o arbenigedd a phrofiad tu allan i’r ysgol.’

9.3.  Yn y ddogfen ddilynol, Cymwys am Oes, Cwricwlwm i Gymru - Cwricwlwm am Oes Chwefror 2015, cyfeirir yn benodol yn adran Bloc Adeiladu 3 at ymestyn a hyrwyddo profiadau dysgwyr, cyfraniad clybiau, cymdeithasau, grwpiau, chwaraeon, celfyddydau, trydedd sector ayyb. Mae’r adran yn nodi pwysigrwydd i ysgolion a sefydliadu allanol i gydweithio gan ystyried, ymestyn a chreu profiadau yn y gymuned i ddysgwyr.

9.4.  Ond wrth edrych ar y ddogfen fwyaf diweddar Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl, Cynllun gweithredu 2017-21, mae llai o bwyslais ar y profiadau cyfoethogi a chyfraniad cyrff fel yr Urdd. O fewn y tair haen system addysg Cymru nid oes cyfeiriad at gyfraniad mudiad fel yr Urdd tuag at addysg plant a phobl ifanc.

9.5. Teimlwn ei fod yn amserol i gychwyn y drafodaeth hon gan gychwyn profi a datblygu sgiliau o fewn ysgolion ac o fewn cyrff allanol, i alluogi cyfraniad proffesiynol, ymholgar a phwrpasol.

9.6. Er bod sôn am gyfraniad gwaith Ieuenctid o fewn amcan galluogi 3, nid oes trafodaeth ffurfiol wedi digwydd gyda’r sector gwaith ieuenctid gwirfoddol i drafod ei rôl a chyfraniad i’r cwricwlwm newydd. Yn ychwanegol mae angen ystyried os gall y cynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg gefnogi'r amcan hwn. I’r perwyl yma mae’r Urdd wedi cyflwyno cynnig o fodel gwaith ieuenctid cenedlaethol cyfrwng Cymraeg i swyddogion Llywodraeth Cymru.  Deallwn bydd angen i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid dros dro ystyried hyn wrth ddatblygu’r strategaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru.

9.7.  Rydym yn awyddus i ddatblygu ein cynnig e.e. sut mae profiadau'r Urdd yn pontio yn ôl i’r cwricwlwm ac addysg plant a phobl ifanc Cymru. Teimlwn fod angen rhannu gwybodaeth am y Cwricwlwm newydd a datblygu capasiti cyrff fel yr Urdd i ymateb i’r trawsnewid sylfaenol yn y cwricwlwm rhwng nawr hyd at 2022. 

10. Y camau a gymerir i sicrhau bod Cwricwlwm Cymru newydd yn ategu blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Cymraeg 2050.

10.1.                     Rydym yn croesawu'r cynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu'r Gymraeg mewn Addysg. Mae Urdd Gobaith Cymru yn edrych ymlaen at gyfrannu at y weledigaeth. Mae profiadau plant a phobl ifanc o gynnig yr Urdd, cyfnodau preswyl yn y gwersylloedd a’r cynllun Cymraeg Bob Dydd yn enghreifftiau o brofiadau cyfoethogi sy'n dod a’r Gymraeg yn fyw i blant a phobl ifanc. Rydym am barhau i ddatblygu ac ehangu’r profiadau yma i bob dysgwr ac edrychwn ymlaen at weithio’n agosach gyda Llywodraeth Cymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a’r ysgolion i wireddu’r weledigaeth y Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn addysg.